Amser i Weithredu: Grŵp Trawsbleidiol: Digwyddiad a gafodd ei arwain gan Bobl Ifanc a Goroeswyr
Y rhyngblethu rhwng niwed ar-lein a cham-drin rhywiol rhwng cyfoedion yn yr ysgol
Dydd Llun 26 Medi 2022
10.00 – 12.00
Digwyddiad rhithwir
Cofnodion
Agorodd Jayne Bryant AS y cyfarfod, gan egluro bod hwn yn ddigwyddiad a fyddai’n cael ei arwain gan bobl ifanc ac arbenigwyr drwy brofiad bywyd o’r rhyngblethu rhwng cam-drin rhywiol rhwng cyfoedion a niwed ar-lein. Yr alwad gyffredinol i Lywodraeth Cymru a fyddai’n deillio o’r digwyddiad hwn yw pwysigrwydd hyrwyddo lleisiau pobl ifanc ac arbenigwyr drwy brofiad bywyd yn y broses o ddatblygu polisi ar aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion a niwed ar-lein. Cafodd y digwyddiad ei arwain gan gynrychiolwyr o Senedd Ieuenctid y DU, gyda chefnogaeth gan sefydliad Plant yng Nghymru, a Sefydliad Marie Collins.
Pwyntiau allweddol a nodwyd gan y siaradwyr
Rhiannon Faye McDonald, Sefydliad Marie Collins a Grŵp Arbenigwyr drwy Brofiad Bywyd y prosiect Dragon-Shield ym Mhrifysgol Abertawe (LEEG) - Pam a sut i brif ffrydio arbenigedd drwy brofiad bywyd ym maes cam-fanteisio ar blant a’u cam-drin yn rhywiol ar-lein, a lansio animeiddiad o dan y teitl 'Strong at the Broken Places' ac adroddiad cysylltiedig
· Mae angen prif ffrydio grwpiau arbenigwyr drwy brofiad bywyd yn y broses o ddatblygu polisi. Mae Sefydliad Marie Collins yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu grŵp eiriolaeth o ran profiad bywyd, ochr yn ochr â’r grŵp eiriolaeth arfaethedig ar gyfer pobl ifanc.
· Mae'n bwysig bod lleisiau goroeswyr yn cael eu clywed, gan fod ganddynt gymaint i'w ddysgu i lunwyr polisi.
· Rhaid i drefniadau cyfranogi sicrhau nad yw goroeswyr yn dioddef rhagor o niwed wrth iddynt gefnogi’r broses o ddatblygu polisi.
· Mae'n hanfodol bod cylch adborth cyson yn cael ei greu rhwng llunwyr polisi â grwpiau arbenigwyr drwy brofiad bywyd, ynghylch sut mae profiadau'r grwpiau dan sylw yn cael eu defnyddio ac yn cael effaith.
· Lansiodd Dragon Shield a'r Grŵp Arbenigwyr drwy Brofiad Bywyd animeiddiad, sef 'Strong at the Broken Places', ynghyd ag adroddiad cysylltiedig. Dylech gysylltu â Dragon-S yn uniongyrchol i gael rhagor o wybodaeth project.dragons@swansea.ac.uk
Datrysiadau ar gyfer pobl ifanc – Hyrwyddo profiadau pobl ifanc – Senedd Ieuenctid y DU
· 'Gall unrhyw un fod yn gyflawnwr, o ddieithriaid i'r bobl yr ydym yn ymddiried fwyaf ynddynt.’
· Mae’n rhaid i ni herio’r broses o normaleiddio cam-drin rhywiol rhwng cyfoedion, a herio termau fel ‘peidiwch â chymryd sylw’ neu ‘bechgyn yw bechgyn’.
· Galwodd y grŵp am y camau a ganlyn:
· Rhaid addysgu’r cysyniad o ganiatâd ymhlith yr holl ddysgwr mewn ysgolion
· Dylid darparu hyfforddiant i staff ysgol ynghylch sut i adnabod y niwed y mae pobl ifanc yn ei brofi
· Rhaid herio’r stigma sy’n gysylltiedig â’r profiad o gael eich cam-drin
· Dylid darparu gwell cymorth ar-lein a chymorth ar apiau i bobl ifanc
· Dylai fod yn orfodol i apiau ddarparu cymorth i bobl ifanc sy'n cael eu niweidio
· Dylai fod yn orfodol i waith cydweithredol ddigwydd ar draws adrannau a sectorau er mwyn creu strategaethau i fynd i’r afael â phroblemau cam-drin ar-lein a cham-drin rhwng cyfoedion.
Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
· Mae’r materion hyn yn flaenoriaeth drawslywodraethol i Lywodraeth Cymru, ac mae angen lleisiau pobl ifanc i herio’r broses o normaleiddio cam-drin rhwng cyfoedion.
· Roedd yn anodd derbyn y wybodaeth yn adroddiad Estyn ynghylch yr hyn y mae plant a phobl ifanc wedi’i ddioddef.
· Siaradodd y Gweinidog am bwysigrwydd cyfathrebu: sicrhau bod pobl ifanc yn teimlo’n hyderus i adrodd am ddigwyddiadau, a bod pwysigrwydd cynnal perthnasoedd diogel, cyfartal yn cael ei gyfleu i bobl ifanc yn gyfnewid am hynny. Bwriedir cynnal ymchwil Cymru gyfan er mwyn deall dewisiadau pobl ifanc o ran sut y dylid cyfathrebu â hwy. Mae’n ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i wrando a gweithredu.
· Ni ddylid disgwyl dioddef niwed mewn mannau ar-lein, ac mae addysg yn chwarae rhan hanfodol yn y cyd-destun hwn. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr her a gynrychiolir gan niwed ar-lein mewn ysgolion, ond dylai staff ymdrin â niwed ar-lein fel unrhyw bryder diogelu arall.
· Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu hyfforddiant i staff ysgol ynghylch aflonyddu rhywiol ar-lein.
· Bydd panel cynghori plant a phobl ifanc ar gyfer cydnerthedd digidol yn llywio cyfeiriad gwaith Llywodraeth Cymru yn y maes hwn.
· Mae newidiadau yn yr arfaeth i ganllawiau gwrth-fwlio er mwyn adlewyrchu aflonyddu rhwng cyfoedion, gan gynnwys bwlio plant a phobl ifanc LHDTC+. Bydd hyn yn cynnwys cadw cofnodion trylwyr o achosion o aflonyddu rhwng cyfoedion a bwlio pobl LGBTQ+.
· Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar ganllawiau i ysgolion ynghylch pobl drawsryweddol.
Sesiynau grŵp
O dan arweiniad cynrychiolwyr o Senedd Ieuenctid y DU, cafodd y rhai a oedd yn bresennol eu rhannu yn bedwar grŵp, a hynny er mwyn datblygu argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru. Yn eu hystafelloedd ar wahân, canolbwyntiodd y grwpiau ar rieni a gofalwyr/addysg/y diwydiant technoleg/gwleidyddion.
Dyma rhai o’r themâu a ddaeth i’r amlwg yn sgil y trafodaethau:
· Mae’n bwysig darparu hyfforddiant i holl staff ysgolion a gweithwyr ieuenctid
· Rhaid i bobl ifanc a grwpiau profiad bywyd fod yn rhan ganolog o’r broses o sicrhau newid a datblygu polisi
· Dylid cefnogi rhieni/gofalwyr ac ysgolion yn y broses o feithrin perthnasoedd, er mwyn ceisio cadw plant yn ddiogel
· Mae angen cefnogaeth barhaus ar rieni a gofalwyr mewn perthynas â risgiau a niwed sy'n dod i'r amlwg
· Dylai ymgyrchoedd ymwybyddiaeth herio’r broses o normaleiddio cam-drin rhywiol rhwng cyfoedion a niwed ar-lein
· Dylai fod gan bobl ifanc lwybrau clir o ran sicrhau cymorth ac adrodd am niwed
· Rhaid datblygu arfer o ran mynd i'r afael â niwed ar-lein mewn modd effeithiol
· Mae’r materion hyn yn effeithio ar blant oedran cynradd, a rhaid i hyn fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru hefyd
Camau i’w cymryd
Bydd ysgrifenyddiaeth y Grŵp Trawsbleidiol yn datblygu papur briffio ar gyfer Llywodraeth Cymru, sy’n cynnwys argymhellion ar gyfer y cynllun gweithredu sydd ar ddod ynghylch aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion.
Diolchodd Jayne i bawb am fod yn bresennol, a daeth â’r cyfarfod i ben.